Geraint Meek (Bwystfilod Bryn Tawe),
16 Jan 2009
Mwynheais y llyfr yma’n fawr. Er ei fod yn lyfr eithaf bach mewn maint, y mae’n rhoi darlun cyflawn o fywyd anturus bachgen o Gasnewydd. Beth hoffais fwyaf am y llyfr oedd bod Dafydd (y prif gymeriad) yn gwneud pethau mor anghredadwy mewn sefyllfaoedd hyd yn oed yn fwy annhebygol ac yn medru parhau a’i fywyd ar ôl hynny. Rydw i’n credu bod y clawr yn denu’r darllenwr drwy achosi chwilfrydedd. Hoffais hefyd y ffaith bod Dafydd yn teimlo rhwystredigaeth ar y cae chwaraeon, teimlad y bydd llawer o bobl yn gallu uniaethu ato, rwy’n siŵr! Yn fy marn i, nid oes pwyntiau gwael am y llyfr oherwydd y mae wedi cael ei leoli yn y presennol ac y mae’n stori gyffrous. Mwynheais y llyfr anturus yma yn fawr iawn!
Bois Bro,
5 Nov 2008
Stori cyffrous, yn hoff o'r pennodau hynny â beiciau modur yn enwedig y bennod lle âi'r beic trwy ffenest y siop!!
Er hyn, sawl pennod hirwyntog - gormod o wybodaeth/disgrifiad!! Ond ar y cyfan nofel difyr!